Bookmark and Share
Language: Welsh English Dutch German French


Teithio
Rossilli Bay

Sut mae cyrraedd yno.

Mae’n hawdd cyrraedd De Orllewin Cymru gyda chysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd gwych o brif ddinasoedd Prydain.

Mewn Awyren

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yw prif Faes Awyr Cymru ac mae’n cynnig teithiau hedfan rheolaidd a theithiau hedfan siarter i amrywiaeth eang o leoliadau.

Gellir archebu teithiau, gwestai, llogi car a pharcio yn y maes awyr ar wefan Maes Awyr Caerdydd.

www.cwlfly.com

Mewn Car

Gellir cyrraedd y rhanbarth yn hawdd ar draffordd yr M4 a phrif gysylltiadau ffyrdd. Daw’r M4 i ben i’r gorllewin o Abertawe lle ceir rhwydweithiau ffyrdd ‘A’ ardderchog i weddill y rhanbarth.

Ar Fws

Mae gwasanaethau bysiau National Express yn gwasanaethu’r prif drefi yn Ne Orllewin Cymru o weddill y DU.

Ar Drên

Ceir cysylltiadau rheilffordd rheolaidd a chyflym rhwng Llundain a De Orllewin Cymru. Gellir cyrraedd y rhanbarth yn hawdd o’r rhan fwyaf o brif leoliadau eraill y DU.

Ar Long

www.stenaline.co.uk
www.irishferries.com
www.fastnetline.com

Siop Un Stop

Mae Traveline Cymru yn darparu llwybrau a gwybodaeth am amserlenni bysiau, bysiau moethus, trenau, llongau a chwmnïau awyrennau yng Nghymru.

Tocyn Hyblyg Rhyddid Cymru

Mae hwn yn docyn trên/bws sy’n arbed arian ac yn galluogi pobl i deithio faint fynnent ar yr holl brif wasanaethau rheilffordd a’r rhan fwyaf o wasanaethau bws yng Nghymru. Mae pedwar tocyn ar gael sy’n cynnig cyfuniadau teithio ac maent hefyd yn cynnig mynediad rhatach i lawer o atyniadau i dwristiaid.

Calon Cymru

Taith reilffordd hardd 192km o hyd gyda gorsafoedd i stopio ynddynt rhwng de a chanolbarth Cymru.

Croeso Cymru

Y safle swyddogol i ymwelwyr ar gyfer Cymru gyfan.

www.visitwales.com

// Ardaloedd Gwyliau
South West Wales Pembrokeshire Carmarthenshire Swansea
// Mwy o Wybodaeth

Ceir rhywfaint o ddolenni defnyddiol isod a allai eich helpu i benderfynu lle i fynd ar eich gwyliau.

 

 

 

 

Mewn Car
TheAA.com
www.multimap.com
www.google.co.uk/maps


Mewn Bws
National Express
NationalExpress.co.uk


Ar Dręn

National rail
Nationalrail.co.uk

 



Siop Un Stop

Traveline
Traveline-Cymru.org.uk



Rhyddid Cymru

Tocyn Hyblyg
WalesFlexipass.co.uk



Calon Cymru

The-heart-of-Wales.co.uk