Bookmark and Share
Language: Welsh English Dutch German French


Bae Abertawe
Rossilli Bay

Mae Bae Abertawe yn cynnig cymysgedd syfrdanol o gyferbyniadau ysblennydd ac mae'n un o'r cyrchfannau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU.

Mae dinas fywiog Abertawe, gyda’i lleoliad unigryw ar lan traeth tywodlyd 5 milltir o hyd, ei Hardal Forol ddeniadol a’r Marina, yn llawn haeddu ei theitl ‘Dinas y Glannau Cymru’. Ganed y bardd enwog, Dylan Thomas yma ac mae’n ddinas sy’n cynnig diwylliant rhagorol ac yn cynnal  amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Gŵyl yr Haf Bae Abertawe, Rali Cymru DU, Gŵyl Dylan Thomas a Gŵyl y Gaeaf dros gyfnod y Nadolig.

Mae’r atyniadau’n cynnwys amgueddfeydd ac orielau celf, gweithgareddau awyr agored a dan do i blant a pharciau a gerddi sydd wedi ennill gwobrau. Dysgwch fwy am dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol gyfoethog yr ardal yn amgueddfeydd hynaf ac ieuengaf Cymru; Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Rhowch gynnig ar syrffio a dringo dan do yng nghanolfan hamdden a pharc dŵr newydd LC, neu sbwyliwch eich hun yn y sba moethus. Mwynhewch ganol ein dinas a’r siopau a geir yma - gan gynnwys y farchnad dan do draddodiadol fwyaf yng Nghymru lle gallwch flasu cynnyrch lleol arbennig megis cocos a bara lawr (wedi’i wneud o wymon).  Wrth iddi nosi, ceir amrywiaeth o adloniant yn amrywio o theatrau, bariau cyfeillgar, clybiau a sinemâu.

Mae tref glan y môr y Mwmbwls ychydig funudau i ffwrdd, gyda’i phier Fictoriaidd, siopau hufen iâ traddodiadol a thai bwyta o’r safon uchaf.    Gallwch grwydro drwy siopa arbenigol niferus y Mwmbwls, sy’n gwerthu popeth o grochenwaith lleol i lwyau caru Cymreig.

Ystyrir y Mwmbwls fel porth i Benrhyn Gŵyr - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Cyntaf y DU. Ewch i weld yr ardal hardd sydd wedi creu argraff ar genedlaethau o ymwelwyr: mae’r Penrhyn 19 milltir o hyd yn cynnwys rhai o draethau glanaf a mwyaf trawiadol Cymru,  gan gynnwys Rhosili, lle gallwch fwynhau golygfa gofiadwy o’r enwog Ben Pyrod, y Tri Chlogwyn, sef bae harddaf Penrhyn Gŵyr yn ôl rhai, a Llangynydd – a gydnabyddir yn un o brif draethau syrffio’r DU. Yn baradwys i gerddwyr, mae Penrhyn Gŵyr yn cynnig milltiroedd ar filltiroedd o lwybrau arfordirol sy’n cysylltu cildraethau diarffordd â thraethau tywodlyd hir. Ond mae mwy i’r ardal nag arfordir yn unig. Mae mewndir Penrhyn Gŵyr yn llawn planhigion ac anifeiliaid gwerth eu gweld. Beth am ddilyn llwybr ‘Gower Way’ fel taith heriol ar draws y Penrhyn.  I brofi safbwynt gwahanol, gallwch fynd ar gefn ceffyl neu hyd yn oed roi cynnig ar blymio o’r awyr!

Ymhellach i’r dwyrain, mae cymoedd toreithiog Castell-nedd ac Afan yn aros amdanoch. Archwiliwch yr ardal hardd a elwir yn Wlad y Rhaeadrau a Pharc Coedwig Afan enwog, sy’n cynnwys rhai o lwybrau beicio mynydd gorau Prydain. Neu gallwch ddringo’r coed, sleidio ar hyd gwifrau uchel, cropian drwy dwneli, croesi pontydd rhaff, cerdded ar hyd astellau a sipio yn ôl i’r ddaear yn ‘Go Ape!’ ym Mharc Margam (a fydd yn agor yng Ngwanwyn 2009).

Felly p’un ai a ydych yn chwilio am wyliau i ymlacio neu am wyliau egnïol mewn lleoliad ysblennydd, mae Bae Abertawe yn ddelfrydol i chi!

I gael gwybod mwy ewch i: www.visitswanseabay.com
// Ardaloedd Gwyliau
South West Wales Pembrokeshire Carmarthenshire Swansea
// Mwy o Wybodaeth

Canolfan Groeso Abertawe

Stryd Plymouth, Abertawe, SA1 3QG
Ffôn: + 44 (0)1792 468321

e-bost: tourism@swansea.gov.uk

Canolfan Groeso'r Mwmbwls
Yr Eglwys Fethodistaidd, y Mwmbwls,
SA3 4BU
Ffôn: + 44 (0)1792 361302
e-bost: info@mumblestic.co.uk

Canolfan Groeso Rhaeadr Aberdulais
Rhaeadr Aberdulais, Castell-nedd
SA10 8EU
Ffôn: 01639 636674
e-bost: aberdulaistic@nationaltrust.org.uk

(ar agor drwy'r flwyddyn - dim ond ar benwythnosau yn y gaeaf)


I lwytho copi PDF o’r llyfryn Llety oddi ar y we, cliciwch yma