Mae gwyliau cerdded yn Ne Orllewin Cymru yn cynnig rhai o'r teithiau gorau yn Ewrop - perffaith ar gyfer gwyliau cerdded yn y DU.
Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro yn Llwybr Cenedlaethol - dros 400km o olygfeydd arfordirol a mewndirol perffaith gyda chysylltiadau bysiau ardderchog i gerddwyr. Arhoswch am bythefnos a cherddwch y llwybr cyfan gan fwynhau llawer o letyau gwely a brecwast, gwersylloedd a thafarndai ar hyd y llwybr neu dewiswch lwybrau cerdded cylchol byrrach.
Mae degau o lwybrau cerdded clodfawr yn Sir Gaerfyrddin. Er enghraifft, gallwch gerdded ar fryniau uchel, tonnog y Mynydd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn nwyrain y sir. Cafodd ei ddynodi fel rhan o Barc Daearegol Fforest Fawr, yr unig safle yng Nghymru i gael ei restru ymhlith safleoedd daearegol mwyaf nodedig Ewrop.
Ym Mae Abertawe ceir bron i 1000km o lwybrau hawl tramwy sy'n hawdd eu dilyn ac sy’n adnabyddus. Mae Penrhyn Gŵyr yn cynnig llwybrau cylchol a llinol a syniadau egwyliau byr gwych o fewn ardal hawdd ei chyrchu. I ddwyrain Bae Abertawe mae ardal Castell-nedd Port Talbot hefyd yn cynnwys rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ynghyd â’r bryniau a’r dyffrynnoedd coediog sy'n cuddio tri chwarter o'r ardal, mae'r lleoliad mwy na thebyg yn fwyaf adnabyddus am y Llwybrau Rhaeadrau - cyfres o raeadrau dramatig sy'n gefnlen ar gyfer gwyliau cerdded cofiadwy. Mae'r Ganolfan Rhaeadrau yng Nghwm Nedd yn gartref i Barc Daearegol Fforest Fawr ac yn fan cychwyn Llwybrau Cerdded Gwledig y Rhaeadrau.
Bydd gwyliau cerdded yn Ne Orllewin Cymru yn cynnig y cyfle i ganolbwyntio ar un o dair ardal arbennig, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin neu Bae Abertawe neu’n cysylltu llwybrau neu brofiadau cerdded ar draws y rhanbarth gyda llefydd i aros a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gwyliau hwy.